Math | adran tiriogaethol Ffrainc, arrondissement, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is raniad (lefel 3) o sir, o ran gweinyddiaeth |
---|---|
Rhan o | départements Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae 342 o arrondissements Ffrainc, sef is-raniadau o 100 département Ffrainc. Mae arrondissement yn cyfateb yn fras i 'gylch' lleol neu ardal yn Gymraeg, ond does dim uned llywodraeth leol yng Nghymru a Phrydain sy'n cyfateb yn union iddo.
Gelwir prifddinas arrondissement yn sous-préfecture. Pan mae'r arrondissement yn cynnwys préfecture (prif-ddinas) y département, y préfecture hwnnw yw prif-ddinas yr arrondissement yn ogystal.
Rhennir yr arrondissements yn bellach yn cantons a communes (Cymunedau).
Rhennir Paris, Lyon a Marseille hefyd yn arrondissements trefol: ni ddylir drysu rhain gyda'r arrondissements a ddisgrifir yn yr erthygl hon.
Arrondissements Paris yw'r arrondissements fwyaf enwog ac eiconig gyda bri mawr ar arrondissements yn ôl eu rhif fel un o'r ugain sydd yn y brifddinas.